Gwirfoddoli

 

Gwirfoddoli yn SEWBReC

Mae SEWBReC bob amser yn awyddus i ddod o hyd i wirfoddolwyr a all helpu gyda'r dasg bwysig o gyfrifiaduro cofnodion papur. Yn ogystal, gall fod rhai cyfleoedd hefyd i gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol.

Nid oes angen unrhyw sgiliau na gwybodaeth dechnegol benodol, gan y rhoddir hyfforddiant llawn. Fodd bynnag, mae'n hanfodol eich bod yn gallu gweithio'n fanwl gywir. Byddai rhywfaint o wybodaeth am fioamrywiaeth leol hefyd yn fanteisiol ar gyfer gwaith mewnbynnu data.

Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am bobl sy'n gallu ymrwymo i wirfoddoli am o leiaf hanner diwrnod yr wythnos. Os oes gennych fwy o amser ar gael, mae hynny hyd yn oed yn well!

Mae gwirfoddoli yn SEWBReC yn ffordd dda o greu cysylltiadau a meithrin sgiliau i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa yn y sector amgylcheddol.

Os hoffech gynnig eich gwasanaethau neu drafod y posibilrwydd o wirfoddoli, mae croeso i chi anfon gysylltu â ni.

 

Cyfleoedd Gwirfoddoli Eraill

Mae llawer o'n sefydliadau partner yn cynnig cyfleoedd ar gyfer meithrin profiad gwaith gwirfoddol yn y sector amgylcheddol. Mae'r gwaith hwn yn amrywio o waith cadwraeth ymarferol i gyfranogi mewn arolygon o rywogaethau. Ewch i'n tudalen Enwau Cyswllt a Dolenni am fanylion sefydliadau addas yn eich ardal leol.

 

Cyfranogi mewn Cofnodi Biolegol

Ffordd werthfawr arall o gyfranogi yn y gwaith o warchod a chadw eich bioamrywiaeth leol yw cofnodi'r hyn a welwch. Wedi'r cyfan, ni allwn warchod yr hyn nad ydym yn ymwybodol ohono. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.