Mae SEWBReC yn darparu gwasanaethau amrywiol i'w darparwyr data (cofnodwyr unigol, grwpiau cofnodi lleol a sefydliadau partner) a defnyddwyr ei chynhyrchion a'i gwasanaethau data (yn cynnwys sefydliadau partner ac ymgynghorwyr amgylcheddol).
Mae SEWBReC yn dibynnu ar ei darparwyr data i ddarparu data o ansawdd a ddilyswyd. Yn gyfnewid am y ddarpariaeth hon o ddata, mae SEWBReC yn cynnig gwasanaethau amrywiol i gynorthwyo cofnodwyr. Nodir dewislen o wasanaethau mewn Cytundeb Cyfnewid Data, sydd hefyd yn nodi telerau ac amodau'r defnydd a wneir o'r data gan SEWBReC.
Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth llawn o wasanaethau a gynigir i gofnodwyr mewn Cytundeb Cyfnewid Data safonol.
Nod SEWBReC yw cynnig gwasanaeth "siop un stop" i unrhyw un sydd angen data i'w helpu i asesu goblygiadau posibl cynllun neu brosiect o ran bioamrywiaeth. Yn ddelfrydol dylid defnyddio ein cynhyrchion a'n gwasanaethau data ar y cam cynharaf posibl o gynllunio prosiect, fel y gellir eu defnyddio i ddylanwadu ar arolygon maes newydd.
Am ragor o fanylion am y math o gynhyrchion a gwasanaethau data sydd ar gael i ddefnyddwyr gwahanol, cliciwch yma.
Mae SEWBReC wedi datblygu dewislen o wasanaethau i'w defnyddio gan Gynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. Ceir deuddeg Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol sy'n ymdrin ag ardal SEWBReC. Cliciwch yma am ragor o fanylion.
Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth llawn o wasanaethau SEWBReC i Bartneriaethau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol.