SEWBReC
Sewbrec South East Wales Biodiversity Records Centre
Canolfan Cofnodi Fioamrywiaeth De Dwyrian Cymru
English
Cymraeg
Cartref
Amdanom Ni
Newyddion
Ein Gwasanaethau
Ein Gwasanaethau
Services to Data Suppliers Pages
Gwasanaethau i Ddefnyddwyr Data
Gwasanaethau i Bartneriaethau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Ymholiadau Data
Gyflwyno eich cofnodion
Tudalennau Cofnodi Biolegol
Digwyddiadau
Fforwm Trafod
Oriel Lluniau
Swyddi
Gwirfoddoli
Enwau Cyswllt a Dolenni
Grŵp Ystlumod Caerdydd
Grwp Ystlumod y Cymoedd
Grŵp Cofnodi Gwyfynod Morgannwg
Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Gwent
Site Map
Rydych chi:
/
Ein Gwasanaethau
/
Gwasanaethau i Bartneriaethau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Gwasanaethau i Bartneriaethau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Coladu a rheoli data am rywogaethau
Digido cofnodion papur
Mewnforio data digidol
Digido gwybodaeth am gynefinoedd (e.e. NVC, Cyfnod I, Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU)
Trosglwyddo mapiau papur i fformat System Gwybodaeth Ddaearyddol. D.S. Yn y dyfodol agos, bydd SEWBReC yn gallu trosglwyddo un system dosbarthu cynefinoedd i un arall (e.e. NVC i Gynefinoedd â Blaenoriaeth Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth) gan ddefnyddio'r
System Cynefinoedd Integredig
a ddatblygwyd gan
SERC (Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Gwlad yr Haf)
.
Data ar Ddosbarthiad Rhywogaethau
Archwiliadau Rhywogaethau.
Gellid cynnal archwiliadau rhywogaethau yn flynyddol a'u defnyddio i ddiweddaru gwybodaeth am gynefinoedd a dosbarthiad Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol/rhywogaethau a warchodir; nodi rhywogaethau newydd ac ail ffocysu a mireinio arolygon, rheoli tir ac adnoddau. Gallai'r archwiliad gynnwys mapiau dosbarthiad dot, a rhestrau safleoedd ar gyfer rhywogaethau.
Rhestrau rhywogaethau ar gyfer safleoedd penodol:
Rhestrau o rywogaethau a gofnodwyd ar gyfer ardal benodol (e.e. Gwarchodfa Natur Leol, Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur, neu ardal a ddiffiniwyd).
Dosbarthiad rhywogaethau estron ymledol:
Gwybodaeth wedi'i theilwra i dargedu ardaloedd sy'n peri problem, mewn modd effeithiol drwy raglenni difodiad/rheoli.
Nodi bylchau daearyddol a thacsonomig o fewn setiau data:
Pennu ffocws gwaith arolygu ac adnoddau pan fo angen. Gyda mwy o wybodaeth, gallech gysylltu'n effeithiol â grwpiau perthnasol eraill (e.e. sefydliadau cerdded, clybiau genweirio, grwpiau adaryddion ac ati) i dargedu ardaloedd/grwpiau o rywogaethau gyda data gwael neu lai o ddata.
Archwiliadau Cynefinoedd
Nodi/mapio cynefinoedd â blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU/Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
(defnyddio System Cynefinoedd Integredig yn y dyfodol). Cynhyrchu mapiau sy'n dangos mathau o gynefinoedd o fewn ardal benodol.
Defnyddio rhywogaethau dangosydd achlysurol i nodi cynefin.
Er enghraifft, defnyddio cofnodion Cen Byseddog, Ysgallen Ddreinwen (
Carlina vulgaris
) a Llin y Tylwyth Teg (
Linum catharticum
) i leoli rhos gennog bosibl ar wastraff glo (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Ionawr 2007). Yna, defnyddiwyd hyn i lunio rhestr o safleoedd rhos gennog posibl, a thargedu arolygon o fathau o gynefinoedd nad oes llawer o wybodaeth amdanynt.
Nodi safleoedd cynefinoedd newydd addas
ar gyfer creu/ehangu/gwella cynefinoedd ac ailgyflwyno/trawsleoli rhywogaethau (gan ddefnyddio Cam I/System Cynefinoedd Integredig).
Arolygon cyfranogiad y cyhoedd (cardiau ac ati).
Dylunio a hyrwyddo/lledaenu cardiau
Rheoli a dadansoddi gwybodaeth yn deillio o arolygon.
Adolygiadau o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur/Safleoedd Bywyd Gwyllt
Chwiliadau safleoedd ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd i helpu i nodi safleoedd ac/neu eu hadolygu.
Digido a/neu olygu ffiniau safleoedd.
Cynnal a chadw haenau data diffiniol.
Trefnu gwaith arolygon
Trwy gofnodwyr/sefydliadau lleol.
System Adrodd ar Weithredu Bioamrywiaeth (BARS)
Help o ran mewnbynnu data/gwybodaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol i gronfa ddata
BARS
.
Dychwelyd i Ein Gwasanaethau