Mae Grŵp Ystlumod y Cymoedd yn cwmpasu awdurdodau unedol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thor-faen ac mae'n aelod cyswllt o'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod, sef y corff cenedlaethol sy'n cynrychioli Gwarchod Ystlumod yn y DU.
Mae'r grŵp ystlumod yn cymryd rhan yn y mathau canlynol o weithgareddau:
Ar hyn o bryd mae pwyllgor o dri swyddog a etholwyd a phedwar swyddog na etholwyd. Mae gan yr aelodau hyn swyddogaethau penodol ac maent yn goruchwylio'r broses o sicrhau bod y Grŵp yn rhedeg yn esmwyth. Mae gweddill y grŵp yn cynnwys aelodau, unigolion neu grwpiau eraill sydd â diddordeb mewn ystlumod a chadwraeth ystlumod. Yr unigolyn sy'n dewis faint o rôl y mae'n ei chwarae, ond mae'n amrywio o fynychu cyfarfodydd grŵp i wirfoddoli ar gyfer arolygon a digwyddiadau.
Cadeirydd Richard Dodd
Is-gadeirydd a Chydgysylltydd y Wefan Geri Thomas
Ysgrifennydd Katherine Cooper
Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth Alison Jones
Swyddog Cofnodion a Chydgysylltydd Hyfforddiant Peter Wells
Cydgysylltydd Gofal Ystlumod Erica Dixon
Cydgysylltydd Digwyddiadau ac Arolygon Melanie Dodd
Gweler ochr Saesneg y wefan am fanylion cyswllt.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp, cwblhewch a dychwelwch y ffurflen ymaelodi at yr Ysgrifennydd Aelodaeth (Alison Jones). Y ffi ymaelodi yw £5.00 i oedolion a £2.50 ar gyfer consesiynau.
Gweler ochr Saesneg y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau cyhoeddus.
I gymryd rhan yn yr arolygon a drefnir gan y grŵp, mae'n rhaid i chi fod yn aelod. Am wybodaeth gyffredinol am arolygon cysylltwch â'r Cydlynydd Arolygon (Richard Dodd).
Gall aelodau'r grŵp ystlumod gael hyfforddiant a phrofiad ym maes arolygon a gofalu am ystlumod a'u hailsefydlu. Fel arfer mae'r grŵp yn cynnig rhaglen o arolygon drwy'r tymor o fis Ebrill tan fis Medi a rhaglen o weithdai a digwyddiadau hyfforddi eraill yn ystod y gaeaf.
A oes gennych ystlumod yn eich cartref? A ydych yn gweld ystlumod yn hedfan yn eich ardal? Ydych? Yna rhowch wybod i ni drwy gwblhau ffurflen gofnodi Grŵp Ystlumod y Cymoedd a'i hanfon at y Cydlynydd Cofnodion (Pete Wells), a fydd yn cadw'r cofnodion yn gyfredol a'u hanfon i SEWBReC.
Rydym yn gwerthfawrogi pob cofnod o ystlumod, felly dywedwch wrthym ble rydych wedi eu gweld (hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pa rywogaeth ydynt) fel y gallwn ddysgu mwy am ddosbarthiad ystlumod yn ardal Grŵp Ystlumod y Cymoedd.
Am ragor o wybodaeth am gofnodion cysylltwch â'r Cydlynydd Cofnodion (Pete Wells).
I gysylltu â Grŵp Ystlumod y Cymoedd, anfonwch neges e-bost at yr Ysgrifennydd (Katherine Cooper).
Os oes gennych ymholiad cyffredinol am ystlumod ffoniwch Linell Gymorth yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod ar 0845 1300 228
Am YMHOLIADAU BRYS ynglŷn â gofalu am ystlumod (gan gynnwys ystlumod wedi'u hanafu, ystlumod yn hedfan mewn tai ac ati), ffoniwch Erica Dixon ar 01443 816920 neu 07969 626697.