Cyn y gall SEWBReC gyflawni unrhyw waith ar eich rhan, bydd angen i chi gwblhau, llofnodi a dychwelyd (trwy'r post, ffacs neu e-bost) Ffurflen Ymholi ynglŷn â Data a Rhyddhau Data. Rhaid cwblhau, llofnodi a dychwelyd y ffurflen hon ar gyfer POB ymholiad a gyflwynir gennych. Ni chaiff unrhyw ddata ei ryddhau heb y Ffurflen Ymholi ynglŷn â Data a Rhyddhau Data berthnasol.
Mae'r ddogfen hon ar gael i'w llwytho i lawr ar:
Fformat Dogfen Microsoft Word (.doc)Fformat Dogfen Gludadwy (.pdf)
Nodwch nad oes fersiwn Gymraeg o'r ddogfen hon ar gael ar hyn o bryd.
Mae fersiynau papur ar gael o swyddfa SEWBReC. Yn achlysurol, gall fod angen i ni ddiwygio'r ffurflen, felly dylech sicrhau eich bod yn defnyddio'r fersiwn diweddaraf. Nodwch nad oes fersiwn Gymraeg o'r ddogfen hon ar gael ar hyn o bryd.
Cliciwch yma am ganllawiau i gwblhau'r Ffurflen Ymholi ynglŷn â Data a Rhyddhau Data.
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau SEWBReC i ddefnyddwyr data cliciwch yma.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen a gwblhawyd, byddwn yn asesu eich cais ac yn rhoi amcangyfrif i chi o'r gost o gyflawni'r gwaith cyn dechrau unrhyw chwiliadau data.
Unwaith y byddwn wedi derbyn ffurflen a gwblhawyd, ein nod yw darparu ymateb llawn o fewn 10 diwrnod gwaith, fan bellaf. Os oes angen estyniad i'r amser ymateb hwn, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn y ffurflen.
Mae ymatebion safonol i gais am ddata fel arfer yn cynnwys:
Gellir hefyd deilwra ymatebion i ymholiad i fodloni eich gofynion penodol. Gellir darparu'r adroddiad a'r plot System Gwybodaeth Ddaearyddol fel copïau papur ac/neu fel PDF neu JPEG eglur iawn. Yn achlysurol ar gyfer setiau data mwy, gall fod angen i ni ddarparu cofnodion rhywogaethau fel taenlen Excel.
Mae SEWBReC yn gweithredu fel cwmni di-elw, ac nid yw'n codi tâl am y data neu'r wybodaeth wirioneddol a drosglwyddir i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, rydym yn codi ffi weinyddol i dalu'r gost o goladu, rheoli a lledaenu'r wybodaeth am fioamrywiaeth. Mae'r costau hyn yn cynnwys amser staff a'r gorbenion sy'n gysylltiedig â rhedeg SEWBReC.
Ar gyfer ymholiadau masnachol, ein taliadau presennol yw: £90.00 ynghyd â TAW am yr awr gyntaf, a £65.00 ynghyd â TAW am oriau dilynol.
Cynigir gostyngiad ar y taliadau masnachol safonol i elusennau neu sefydliadau neu unigolion di-elw.
Ymdrinnir ag ymholiadau gan y cyhoedd neu'r sawl sy'n defnyddio'r data at ddibenion addysgol yn ddi-dâl fel arfer, cyhyd â'u bod at ddibenion anfasnachol, ac er budd cadwraeth natur.
Anfonir anfonebau gyda'r adroddiad a gwblhawyd fel arfer, oni nodir yn wahanol. Dylech hysbysu SEWBReC o unrhyw fanylion anfoneb penodol (rhifau archebion prynu, cyfeiriad post yr anfoneb ac ati) i helpu i sicrhau trafodion llyfn.
Mae polisi codi tâl SEWBReC ar gael yma. Cysylltwch â SEWBReC am ragor o fanylion.