Cymdeithas Gwas y Neidr Prydain: Prosiect Atlas Gwas y Neidr Cenedlaethol (2008-2013)

 

Banded DemoiselleLansiwyd y Prosiect Atlas Gwas y Neidr Cenedlaethol ym mis Ebrill 2008. Nod y prosiect hwn yw diweddaru'r wybodaeth am ddosbarthiad rhywogaethau gwas y neidr a mursennod ym Mhrydain dros y bum mlynedd nesaf, gan arwain at gyhoeddi atlas cenedlaethol newydd yn 2013.

Mae angen atlas cenedlaethol newydd arnom ar frys. Mae newid yn yr hinsawdd yngolygu bod rhywogaethau yn ymddangos yn gynt yn y gwanwyn a newid yn amrediad nifer o'n rhywogaethau. Yn ogystal, mae rhywogaethau newydd yn sefydlu ym Mhrydain. Rydym yn byw drwy gyfnod o newid deinamig yn ein ffawna gwas y neidr ac mae angen cofnodi'r wybodaeth hon, gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer asesiadau yn y dyfodol o'r effaith y mae newid yn yr hinsawdd a ffactorau amgylcheddol eraill yn ei chael ar ein ffawna gwas y neidr.

 

ChaserEr mwyn llwyddo â'r prosiect uchelgeisiol hwn mae angen cymorth o bob cwr o'r wlad. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, mwya'n y byd o wybodaeth y gellir ei chasglu ar statws rhywogaethau gwas y neidr a'r fursen. Bydd hyn yn golygu y gellir cynhyrchu atlas cenedlaethol o safon uchel a bydd hefyd yn rhoi sylfaen dda o wybodaeth a fydd o fantais i gadwraeth gwas y neidr yn y dyfodol. Mae rhai o'r manylion heb eu cadarnhau'n derfynol eto ond mae angen llawer o bobl frwd i gofnodi, felly cysylltwch â'ch is-gofnodwyr sirol perthnasol nawr (V.C.35 Sir Fynwy - Ian Smith; V.C.41 Morgannwg - Mike Powell), i wirfoddoli eich amser a'ch brwdfrydedd a byddant yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cymdeithas Gwas y Neidr Prydain.