Gall derbynyddion GPS wneud diffinio cyfeirnodau grid eich cofnodion lawer yn haws, ond mae ychydig o bethau i'w cofio wrth eu defnyddio:
Yn aml mae derbynyddion modern yn rhoi cyfeirnodau grid 10 ffigur sy'n awgrymu y gellir lleoli eich lleoliad i 1m sgwâr bob amser. Fodd bynnag, mae unedau modern hefyd yn rhoi manylion am gywirdeb lleoliadol, sef 3-5m yn gyffredinol. Felly, mae'n bwysig gostwng datrysyn y cyfeirnod grid yn unol â hynny. Os yw eich uned yn dweud bod y cywirdeb lleoliadol yn:
Fodd bynnag, cofiwch y dylech dalgrynnu darlleniadau i lawr, nid i fyny.
e.e. Dylid talgrynnu SS 9876 9876 i lawr i SS 987987; bydd talgrynnu i fyny i SS 988 988 yn rhoi'r cofnod yn y 100 m sgwâr nesaf.
Gall derbynyddion GPS ddefnyddio batris yn eithaf cyflym, ac felly mae'n syniad da eu diffodd rhwng darlleniadau. Fodd bynnag, gall derbynyddion GPS gymryd rhai munudau i ailgysylltu â'u lloerennau, felly gall gymryd ychydig amser cyn y gallwch gael darlleniad cywir ac efallai y bydd yn haws i chi adael yr uned ymlaen.
Caiff cywirdeb ei leihau pan fyddwch dan orchudd (fel coetir) neu mewn cymoedd gan na all derbynyddion gysylltu â'r casgliad llawn o loerennau. Gellir gwella'r sefyllfa hon drwy gadw'r derbynnydd ymlaen.
Mae gwefan Arolwg Ordnans yn cynnig rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am GPS.