Yn syml, cofnod yw pan fydd unigolyn yn gweld rhywogaeth, mewn lleoliad, ar ddyddiad penodol.
Rhaid iddo gynnwys y pedwar darn canlynol o wybodaeth hanfodol er mwyn bod o ddefnydd i ni:
Mae unrhyw wybodaeth arall am y safle neu'r rhywogaeth yn ddefnyddiol, h.y. manylion y cynefin, nifer, rhyw, oedran neu ymddygiad y rhywogaethau unigol a welwyd.
Mae'n well gan SEWBReC gael cofnodion gyda chyfeirnod grid chwe ffigur o leiaf. Mae cofnodion o'r fath yn llawer mwy defnyddiol (e.e. ar gyfer asesu ceisiadau cynllunio a phrosiectau cadwraeth bioamrywiaeth) na chofnodion gyda chyfeirnod grid pedwar ffigur (1km2).
Ar gyfer gwers llawn hwyl ar sut i weithio allan cyfeirnod grid chwe ffigur o fap Arolwg Ordnans safonol, cliciwch yma neu ar y ddelwedd isod.
Yn ardal SEWBReC, y codau dwy lythyren perthnasol ar gyfer grid 100km sgwâr yw SN, SO, SS ac ST.
I gael gwybodaeth am ddefnyddio derbynnydd GPS, cliciwch yma.
Dychwelyd i Cofnodi Biolegol