Sefydlwyd SEWBReC yn 2003, a bu'n gweithredu'n llawn ers haf 2005.
Cliciwch yma i weld y prif Gerrig milltir yn Natblygiad SEWBReC.
Mae SEWBReC yn cael ei redeg fel cwmni nid er elw (cliciwch ar y ddolen i lwytho i lawr y Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu)
Cliciwch yma i weld rhestr o bartneriaid ariannu SEWBReC.
Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd â chydberthynas waith â SEWBReC (e.e. cofnodydd unigol sy'n cyflwyno cofnodion, aelod o grŵp cofnodi lleol neu gynrychiolydd sefydliad partner sy'n defnyddio gwasanaethau SEWBReC). Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am aelodaeth SEWBReC, mae croeso i chi anfon neges e-bost atom.
Mae Adam wedi gweithio mewn Canolfannau Cofnodion Lleol am dros bymtheng mlynedd. Ar ôl dechrau ei yrfa yng Nghanolfan Cofnodion Amgylcheddol Gwlad yr Haf, treuliodd Adam bum mlynedd yn gweithio ar 'Gofnod Biolegol Hampshire' cyn cael ei benodi'n rheolwr ar y Ganolfan Gofnodion Leol gyntaf yng Nghymru, sef y Gwasanaeth Gwybodaeth am Fioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2000. Ymunodd Adam â SEWBReC fel ei Rheolwr cyntaf yn haf 2004. Mae'n aelod o Grŵp Llywio Canolfannau Cofnodion Lleol y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, Cyngor y Ffederasiwn Cenedlaethol Cofnodion Biolegol a Grŵp Llywio Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Ac yntau wedi bod yn Swyddog Datblygu SEWBReC (yn gyfrifol am lunio Cynllun Datblygu SEWBReC) rhwng diwedd 2002 a gwanwyn 2004 pan gafodd ei benodi'n Swyddog TG a Chofnodion SEWBReC, David yw'r aelod o staff sydd wedi gweithio hwyaf yn SEWBReC. Ymunodd David â SEWBReC o swydd fel Curadur Entymoleg Cynorthwyol yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Dyrchafwyd David i'w rôl bresennol ym mis Mehefin 2007.
Ymunodd Rebecca â SEWBReC ar ddechrau 2005. Ar ôl ennill cymhwyster MSc mewn Bioleg Amgylcheddol o Brifysgol Abertawe, treuliodd Rebecca ddwy flynedd fel Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Dinas Casnewydd cyn teithio yng Nghanolbarth America a De America am chwe mis. Dyrchafwyd Rebecca i'w rôl bresennol ym mis Mehefin 2007.
Ymunodd Elaine â SEWBReC ym mis Hydref 2008. Ar ôl cwblhau BSc mewn Rheoli Cefn Gwlad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2004, aeth i weithio i HSBC fel cynrychiolydd gwasanaethau cwsmeriaid i ddechrau, cyn cael ei dyrchafu yn archwilydd mewnol. Gwirfoddolodd Elaine gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Warwig am ddiwrnod yr wythnos hefyd, gan weithio gyda'i hadrannau cynllunio a marchnata.
Canolfannau Cofnodion Lleol yng Nghymru
Canolfannau Cofnodion Lleol - Persbectif y DU
Polisïau a Gweithdrefnau