Amdanom Ni

 

Ein Hanes

Sefydlwyd SEWBReC yn 2003, a bu'n gweithredu'n llawn ers haf 2005.

Cliciwch yma i weld y prif Gerrig milltir yn Natblygiad SEWBReC.

Rheoli ac Ariannu

Caiff SEWBReC ei rhedeg fel cwmni dielw a oruchwylir gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o rai o'i phrif ddarparwyr a defnyddwyr data.

Cliciwch yma i weld rhestr o bartneriaid ariannu SEWBReC.

Aelodaeth gan Gwmnïau

Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd â chydberthynas waith â SEWBReC (e.e. cofnodydd unigol sy'n cyflwyno cofnodion, aelod o grŵp cofnodi lleol neu gynrychiolydd sefydliad partner sy'n defnyddio gwasanaethau SEWBReC). Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am aelodaeth SEWBReC, mae croeso i chi anfon neges e-bost atom.

 

Tîm SEWBReC

Adam Rowe (Rheolwr)

Adam RoweBu Adam yn gweithio mewn Canolfannau Cofnodion Lleol am bron bymtheg mlynedd. Ar ôl dechrau ei yrfa yng Nghanolfan Cofnodion Amgylcheddol Gwlad yr Haf, treuliodd Adam bum mlynedd yn gweithio ar 'Gofnod Biolegol Hampshire' cyn cael ei benodi'n rheolwr ar y Ganolfan Gofnodion Leol gyntaf yng Nghymru, sef y Gwasanaeth Gwybodaeth am Fioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2000. Ymunodd Adam â SEWBReC fel ei Rheolwr cyntaf yn haf 2004. Mae'n aelod o Grŵp Llywio Canolfannau Cofnodion Lleol y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol, Cyngor y Ffederasiwn Cenedlaethol Cofnodion Biolegol a Grŵp Llywio Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Yn gyfrifol am: Pob agwedd ar reoli ariannol, rheoli busnes a rheoli personél. Enw cyswllt allweddol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth presennol a darpar ddefnyddwyr. Swyddog cyswllt ledled Cymru a'r DU.

 

David Slade (Uwch Swyddog TG a Chofnodion)

Ac yntau wedi bod yn Swyddog Datblygu SEWBReC (yn gyfrifol am lunio Cynllun Datblygu David SladeSEWBReC) rhwng diwedd 2002 a gwanwyn 2004 pan gafodd ei benodi'n Swyddog TG a Chofnodion SEWBReC, David yw'r aelod o staff sydd wedi gweithio hwyaf yn SEWBReC. Ymunodd David â SEWBReC o swydd fel Curadur Entymoleg Cynorthwyol yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Dyrchafwyd David i'w rôl bresennol ym mis Mehefin 2007.

Yn gyfrifol am: Holl ddatblygiadau TG a datblygiadau technolegol. Enw cyswllt allweddol ar gyfer darparwyr data presennol a darpar ddarparwyr.

 

Rebecca Davies (Uwch Swyddog Data ac Ymholiadau)

Rebecca DaviesYmunodd Rebecca â SEWBReC ar ddechrau 2005. Ar ôl ennill cymhwyster MSc mewn Bioleg Amgylcheddol o Brifysgol Abertawe, treuliodd Rebecca ddwy flynedd fel Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Dinas Casnewydd cyn teithio yng Nghanolbarth America a De America am chwe mis. Dyrchafwyd Rebecca i'w rôl bresennol ym mis Mehefin 2007.

Yn gyfrifol am: Arwain y gwasanaeth ymholiadau, yn enwedig ymholiadau masnachol ac ymholiadau ynglŷn â Chytundebau Lefel Gwasanaeth. Swyddog cyswllt ar gyfer y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol. Cyflawni a goruchwylio gwaith cofnodi data.

 

Lindsay Bamforth (Cynorthwy-ydd Gwybodaeth am Fioamrywiaeth)

Lindsay BamforthYmunodd Lindsay â SEWBReC ym mis Tachwedd 2007. Yn flaenorol gwirfoddolodd am brosiect a oedd yn datblygu cronfa ddata o gofnodion amgylcheddol yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr, tra'n cwblhau MSc mewn Cadwraeth a Rheoli Bywyd Gwyllt ym Mhrifysgol Newcastle. Yn wreiddiol, ymunodd Lindsay â SEWBReC fel Cynorthwy-ydd Gwybodaeth am Fioamrywiaeth (yn gweithio ar brosiect cyfrifiaduro data Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ac ym mis Gorffennaf 2008 fe'i dyrchafwyd i rôl Swyddog Data ac Ymholiadau.

Yn gyfrifol am: Arwain chwiliadau rheoli datblygu ar gyfer awdurdodau lleol, cynorthwyo gyda'r gwasanaeth ymholiadau masnachol a darparu gwasanaethau i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Cyflawni a goruchwylio gwaith cofnodi data.

 

Canolfannau Cofnodion Lleol yng Nghymru

Canolfannau Cofnodion Lleol - Persbectif y DU

Polisïau a Gweithdrefnau