Cliciwch yma i gael newyddion am weithgareddau SEWBReC a datblygiadau sy'n effeithio ar gofnodi bioamrywiaeth.
Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) yw'r ganolfan ar gyfer coladu, rheoli a lledaenu data bioamrywiaeth ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Ein nod yw sicrhau bod gwybodaeth briodol am fioamrywiaeth leol ar gael i bawb sydd ei hangen, i helpu i sicrhau y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar fioamrywiaeth leol gan ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael.
Rydym yn cyflawni'r nod hwn drwy:
Ar hyn o bryd rydym yn cadw dros 1,000,000 o gofnodion rhywogaethau ac yn gweithio'n gyson i wella ansawdd a swm y data a gedwir gennym. Cliciwch yma am fanylion pellach am y data a reolir gennym.
Dangosir ardal ddaearyddol SEWBReC ar y map uchod. Mae'r map hwn hefyd yn dangos manylion cyswllt ar gyfer Canolfannau Cofnodion Lleol cyfagos yng Nghymru a Lloegr.